Amdanom ni

Gwyl y Pethau Bychain 2019

Yn 2018 daeth grŵp o ffrindiau ym Machynlleth a’r cyffiniau at ei gilydd i greu Gŵyl Werin Gymreig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, sef Gŵyl Y Pethau Bychain, enw sy’n seiliedig ar ddywediad enwog y sant. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf ar 1af-3ydd Mawrth 2019, a bu’n llwyddiant mawr.

Roedd artistiaid o bob rhan o Gymru, rhai yn enwog yn rhyngwladol, rhai yn lleol, ac artistiaid gwadd o Iwerddon. Daeth ymwelwyr o bell ac agos. Yn dilyn y llwyddiant cynnar hwnnw, cafodd y grŵp ei ffurfioli gyda’r bwriad o wneud yr ŵyl yn ddigwyddiad blynyddol ac i gynnal digwyddiadau eraill yn ystod y flwyddyn. Mae’r grŵp yn hollol wirfoddol. Os hoffech chi gymryd rhan, croesawn unrhyw gymorth.

Cymryd rhan

Dydd Gwener yn Y Cwtch

Mae sesiwn anffurfiol yng Nghwtch Y Wynnstay ar yr ail a’r pedwerydd dydd Gwener o bob mis. Dewch ag offeryn, eich llais, neu jest dewch i wrando.

Os ydych chi’n fand neu’n gerddor sy’n awyddus i berfformio, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.

Help gyda’r Ŵyl

Mae angen gwirfoddolwyr arnom i helpu gyda chodi arian, cyhoeddusrwydd, trefnu, gosod posteri a baneri, addurno, gofalu am y drws a lleoliadau.

Cysylltwch â ni