Machynlleth

Clock tower, Machynlleth

Mae Machynlleth yn dref farchnad fywiog a phrysur yng nghanol Cymru, wedi ei lleoli lle mae ffyrdd allweddol o’r De i’r Gogledd ac o’r Gorllewin i’r Dwyrain yn cwrdd. Mae cyrraedd yma’n hawdd ar drên, car neu fws. Mae gan Fachynlleth hanes cyfoethog, gyda’r farchnad yn cael ei chynnal bob wythnos ers y 13eg Ganrif. Dyma hefyd leoliad Senedd Owain Glyndŵr, sy’n sefyll hyd heddiw – 700 mlynedd ar ôl ei wrthryfel enwog. Mae gan y dref amrywiaeth o fusnesau bach ac ystod eang o weithgareddau yn yr ardaloedd cyfagos.

Mae digon i’w wneud ar y penwythnos ar wahân i werthfawrogi awyrgylch bywiog a dathliadau diwrnod Dewi Sant. Mae yna ddigon o lefydd i aros gan gynnwys Gwesty Wynnstay lle mae llawer o’r cyngherddau’n cael eu cynnal, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu’n gynnar!